SL(6)479 – Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024
Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag archwilwyr meddygol a benodir gan gorff GIG Cymru i gyflawni’r swyddogaethau a roddir i archwilwyr meddygol gan neu o dan Bennod 2 o Ran 1 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 (“y Ddeddf”). Mae’r swyddogaethau hynny yn cynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud ag ardystio’n feddygol achos marwolaethau y mae’n ofynnol eu cofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953.
Mae rheoliad 3 yn nodi darpariaethau ynghylch telerau mandadol sydd i’w cynnwys yn nhelerau penodi archwilwyr meddygol ac ynghylch terfynu penodiad, ac yn caniatáu cynnwys unrhyw delerau eraill y cytunir arnynt rhwng y corff penodi a’r archwilydd meddygol (fel y’u diffinnir yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn).
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth sy’n caniatáu i gorff penodi dalu tâl, treuliau, ffioedd, digollediad am derfynu penodiad, pensiynau, lwfansau neu arian rhodd i archwilwyr meddygol.
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r hyfforddiant sydd i’w ddilyn gan archwilwyr meddygol.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i archwilwyr meddygol ddilyn camau penodol pan na fo’r archwilydd meddygol, mewn perthynas â marwolaeth y mae’n ofynnol ei chofrestru, yn ddigon annibynnol o fewn ystyr y rheoliad hwnnw, oherwydd cysylltiad a oedd gan yr archwilydd meddygol â’r person ymadawedig, yr ymarferydd perthnasol a fu’n gweini neu unrhyw ymarferydd meddygol perthnasol arall ar adeg y farwolaeth. Mae’r camau hyn yn cynnwys gwrthod arfer swyddogaethau mewn perthynas â marwolaeth, a hysbysu eu corff penodi.
Mae rheoliad 7 yn rhoi swyddogaethau i archwilwyr meddygol sy’n ychwanegol at eu swyddogaethau sy’n ymwneud â’r dystysgrif feddygol achos marwolaeth o dan reoliadau a wneir o dan adran 20(1) o’r Ddeddf.
Mae rheoliad 8 yn darparu nad yw cyflenwi unrhyw wybodaeth o dan y Rheoliadau hyn yn torri unrhyw rwymedigaeth o ran cyfrinachedd. Mae hefyd yn darparu nad yw’r Rheoliadau hyn yn gweithredu i’w gwneud yn ofynnol nac i awdurdodi datgelu na defnyddio gwybodaeth a fyddai’n torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd;
Nodwn fod y Rheoliadau hyn yn rhan o ddiwygio'r broses ardystio marwolaethau yn ehangach Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“4.1 Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o ddiwygio'r broses ardystio marwolaethau yn ehangach. Mae'r diwygiadau yn newid y ffordd y craffir ar farwolaethau, ac y'u hardystir yng Nghymru a Lloegr drwy gyflwyno system archwilwyr meddygol statudol. Cyhoeddwyd hyn gan Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Llywodraeth y DU, Maria Caulfield, mewn datganiad gweinidogol ysgrifenedig ar 27 Ebrill 2023 HCWS750.
4.2 Mae proses graffu'r archwilwyr meddygol ar farwolaethau yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn gweithredu ar sail anstatudol ers 2019. Mae'r offeryn hwn yn rhoi rôl archwilwyr meddygol ar sail statudol ac mae'n golygu y bydd adolygiad annibynnol o'r holl farwolaethau yng Nghymru a Lloegr.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
24 Ebrill 2024